Beth yw llinell gymorth yr NSPCC?
Mae Llinell Gymorth yr NSPCC yn wasanaeth am ddim, 24 awr, sy’n rhoi cyngor i unrhyw un sy’n poeni am blentyn.
Rydym yma i helpu os hoffech roi gwybod i ni eich bod yn pryderu’n fawr fod plentyn yn cael ei gam-drin, neu os oes angen cyngor arnoch am les plentyn.
Does dim rhaid i chi ddweud pwy ydych chi, ac os byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn, ni fyddwn yn gwybod o ble rydych chi'n ffonio.
Dydych chi ddim yn gwneud dim byd o’i le
Gall fod yn anodd ein ffonio ni neu anfon e-bost atom. Ond, os ydych chi’n poeni am blentyn, yna peidiwch â darbwyllo eich hun i wneud dim. Efallai mai chi fydd â darn coll y jig-so – a hebddo, gall plentyn fod mewn perygl.
Drwy gysylltu â ni, rydych yn rhannu eich gofid gydag arbenigwyr sy’n deall eich pryderon. Gallwn ni benderfynu beth yw'r peth iawn i'w wneud ar eich rhan, a gallwn dawelu’ch meddwl. Felly, os ydych chi’n poeni am blentyn, cysylltwch â ni.
Bydd ein cynghorwyr yn barod i ateb unrhyw gwestiwn a all fod gennych am y gwasanaeth a sut gallwn ni eich cefnogi chi. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am y cwestiynau cyffredin a ofynnir i ni ynghylch aros yn ddienw, sut mae Llinell Gymorth yr NSPCC yn gweithio, a pha fath o gofnodion rydyn ni’n eu cadw.
Weithiau, efallai y byddwch yn ansicr ynghylch eich pryderon am blentyn, felly mae croeso i chi siarad â ni am eich teimladau greddfol neu am unrhyw beth rydych chi’n credu sy’n amheus. Neu, gallwch siarad am agweddau eraill ar les plant. Edrychwch ar beth y gallwch ei drafod gyda ni, yn ogystal â’r arwyddion rhybudd a all awgrymu fod gan blentyn broblem ddifrifol.
Cysylltu â ni
Mae Llinell Gymorth yr NSPCC yn wasanaeth hwylus a diwylliannol sensitif. Gallwch gysylltu yn y ffyrdd canlynol:
cysylltu â ni dros y ffôn
cysylltu â ni dros yr e-bost
cysylltu â ni ar-lein.
Mae rhai o’n cynghorwyr yn siarad Cymraeg, ac mae eraill yn siarad nifer o ieithoedd Asiaidd. Gall pobl fyddar neu drwm eu clyw gysylltu â ni drwy ISDN ffôn fideo ar 020 8463 1148, neu IP ar ffôn fideo neu we-gamera ar nspcc.signvideo.tv.
Bookmark this page:
Worried about a child?
You can talk with an NSPCC counsellor for free, 24 hours a day. Call 0808 800 5000
