Ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC
Gallwch ffonio Llinell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000 unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, 365 niwrnod y flwyddyn.
Pan fyddwch yn ffonio
Dyma syniad o drefn bosibl eich galwad, gam wrth gam:
- Bydd y sawl sy’n ateb yn eich holi’n gryno am natur eich pryder.
- Yna cewch eich cyfeirio at gynghorydd, a fydd yn gofyn i chi sôn am sefyllfa’r plentyn yn gyffredinol.
- Bydd yn egluro sut gallwch aros yn ddienw.
- Os bydd pob cynghorydd yn brysur, byddwn yn cynnig ychydig o opsiynau i chi. Gallwch ffonio’n ôl yn nes ymlaen, gofyn i ni eich ffonio'n ôl, a chael gwybod am ffyrdd eraill o gysylltu â ni (megis dros yr e-bost neu drwy ein ffurflen ar-lein).
- Ar sail eich gwybodaeth chi, bydd y cynghorydd yn penderfynu a oes angen rhoi gwybod i'r heddlu neu’r gwasanaethau plant.
- Os bydd angen iddo gyfeirio’r achos at yr heddlu neu'r gwasanaethau plant, bydd yn gofyn am rywfaint o fanylion i gadarnhau pwy yw’r plentyn.
- Os bydd y cynghorydd yn penderfynu nad oes angen cyfeirio’r plentyn, bydd yn rhoi cyngor i chi ynghylch sut gallwch helpu’r plentyn yn y dyfodol – arwyddion rhybudd i chi gadw llygad amdanynt, neu sut gallwch gynnig cefnogaeth i'r rhieni neu'r gofalwyr.
- Ni fydd cynghorydd byth yn eich gorfodi i roi manylion plentyn rydych yn poeni amdano – chi fydd yn penderfynu beth rydych am ei ddweud.
Aros yn ddienw – dros y ffôn
Does dim rhaid i chi roi eich enw pan fyddwch chi’n ffonio. Os byddwch yn rhoi’ch manylion, ni fyddwn yn rhoi'ch enw na'ch cyfeiriad i'r unigolyn na'r teulu rydych yn pryderu yn ei gylch. Os yw’ch manylion gennym ac y bydd arnom angen cyfeirio'r achos at y gwasanaethau plant neu'r heddlu, byddwn yn rhannu eich manylion. Rydym bob amser yn atgoffa'r asiantaethau hyn i beidio â rhannu’ch manylion chi gyda’r teulu.
Os byddwch yn gofyn i ni eich ffonio’n ôl, bydd arnom angen enw a rhif cyswllt. Cewch ddefnyddio ffug enw, gan y bydd angen i ni ddefnyddio'r enw hwn os byddwn yn cyfeirio'r achos at y gwasanaethau plant neu'r heddlu.
Caiff pob galwad ei recordio a’i chadw am chwe blynedd. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau y darperir y gwasanaeth gorau posib i chi.
Eich bil ffôn
Os byddwch yn ffonio o linell dir, ni fydd rhaid i chi dalu am yr alwad, ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil. Dywedwyd wrthym fod hyn hefyd yn wir am ffonau symudol Virgin, O2, Orange, 3 a T-Mobile. Ond, mae Vodafone yn codi tâl am alwadau i rifau 0808, felly bydd yr alwad yn ymddangos ar eich bil.
Bookmark this page:
Worried about a child?
You can talk with an NSPCC counsellor for free, 24 hours a day. Call 0808 800 5000
