Anfon e-bost at Linell Gymorth yr NSPCC
Gallwch anfon e-bost at Linell Gymorth yr NSPCC ar help@nspcc.org.uk, a hynny unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, 365 niwrnod y flwyddyn. Byddwn yn darllen eich neges e-bost ac yn gweithredu arni o fewn 24 awr.
Os ydych chi’n meddwl bod plentyn mewn perygl dybryd, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999. Neu, ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000. Peidiwch ag anfon e-bost atom oherwydd mae'n bosibl na fydd modd i ni ymateb i'ch neges yn syth.
Beth mae arnom ei angen gennych chi
Os byddwch yn cysylltu â ni dros yr e-bost, ceisiwch roi cymaint o wybodaeth â phosibl am y plentyn a’i sefyllfa. Os ydych wedi gweld unrhyw arwyddion rhybudd , cofiwch roi gwybod i ni. Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all helpu i gadarnhau manylion y plentyn – megis ei enw neu ei gyfeiriad – cofiwch rannu’r wybodaeth honno hefyd.
Os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth, mae’n bosibl y byddwn yn anfon e-bost yn ôl atoch.
Anfon e-bost i ofyn i ni eich ffonio’n ôl
Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn gofyn i ni eich ffonio’n ôl. Byddwn yn ceisio eich ffonio’n ôl o fewn 24 awr i’ch neges e-bost – ond cofiwch roi eich enw er mwyn i ni wneud yn siwr wrth ffonio ein bod yn siarad â’r sawl a anfonodd yr e-bost atom. Cewch ddefnyddio ffug enw os dymunwch.
Aros yn ddienw dros yr e-bost
Gan y bydd gennym gofnod o’ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn anfon e-bost atom, ni fydd modd i chi aros yn gwbl ddienw. Os bydd angen i ni gyfeirio’r achos at yr heddlu neu’r gwasanaethau plant, mae dyletswydd arnom i drosglwyddo manylion eich cyfeiriad e-bost hefyd.
Byddwn yn cadw cofnod o unrhyw gysylltiad e-bost am chwe blynedd.
Anfonwch e-bost at Linell Gymorth yr NSPCC ar: help@nspcc.org.uk
Bookmark this page:
Worried about a child?
You can talk with an NSPCC counsellor for free, 24 hours a day. Call 0808 800 5000
