Cwrdd â Llais Pobl Ifanc Ar-lein
Elodie, 15, Swydd Down
Emily, 14, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Finn, 15, Dwyrain Swydd Dunbarton
James J, 15, Gogledd Gwlad yr Haf
James T, 17, Armagh
Leo, 16, Llundain
Liidia, 14, Glasgow
Malia, 16, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Mika, 17, Canolbarth Lloegr
Rayhaan, 18, Swydd Gaerlŷr
Shalom, 14, Bolton
Tiffany, 17, Dyfnaint
Will, 15, Swydd Nottingham
Zara, 15, Birmingham
Ein Maniffesto ar gyfer Newid
Ni yw Llais Ieuenctid Ar-lein yr NSPCC, sef grŵp o 14 o bobl ifanc 14-17 oed o bob cwr o’r DU. Rydyn ni yma i greu dyfodol lle mae profiad pob plentyn ar-lein yn un cadarnhaol. Rhaid i leisiau ein cenhedlaeth gael gwrandawiad.
Er mis Ebrill 2024, rydym wedi bod yn datblygu ein maniffesto arloesol ar gyfer newid, sy’n datgan ein 5 blaenoriaeth.
Bydd y rhain:
- Yn golygu y gallwn bwyso am weithredu mewn meysydd fel diogelwch, preifatrwydd ac addysg.
- Yn sicrhau bod gan bobl ifanc gynrychiolaeth.
- Yn rhoi inni ran amlwg mewn gwneud penderfyniadau, codi ymwybyddiaeth, a rheoleiddio’r byd ar-lein.
- Yn sicrhau bod y rhyngrwyd yn parhau i fod yn lle cadarnhaol a chalonogol i bobl ifanc.
Fe wnaethom ddewis y 5 blaenoriaeth yma oherwydd ein bod ni’n credu mai nhw yw’r pryderon mwyaf perthnasol i’n cenhedlaeth ni. Rydym hefyd yn credu mai dyma’r meysydd lle mae gwir angen i bethau newid.
Byddwn yn gweithio drwy gwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol, gyda chefnogaeth yr NSPCC a’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Fe wnânt ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau, gan greu’r newidiadau y mae angen i ni eu gweld.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, ewch i npscc.org.uk/VoiceOfOnlineYouth.
Llwythwch ein maniffesto (PDF)
Y problemau a welwn:
Mae addysg diogelwch ar-lein yn aml yn hen ffasiwn ac yn amherthnasol, ac yn methu â rhoi sylw i'r heriau go iawn y mae plant yn eu hwynebu. Ac mae'r adnoddau ar gyfer rhieni wedi’u seilio ar yr hyn y mae rhieni’n ei feddwl ydy’r problemau, nid y problemau go iawn y mae plant yn eu hwynebu.
Yr atebion rydym am eu cael:
Rydyn ni eisiau i bob oedolyn gael ei addysgu’n well i helpu pobl ifanc gyda’r materion maen nhw’n gorfod delio â nhw ar-lein. Mae angen i’r gefnogaeth hon gael ei siapio gan blant a’u profiadau. Mae angen iddi fod yn berthnasol ac yn briodol i oedran, gan dynnu sylw at gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae angen i bobl ifanc allu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’i siapio.
Y problemau a welwn:
Nid yw offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu rheoleiddio eto, ac mae hynny’n arwain at ddatblygiadau nad oes neb yn cadw golwg arnynt ac nad oes neb yn atebol amdanynt. Gall botiau sgwrsio deallusrwydd artiffisial fod yn annibynadwy ac mae ganddynt y potensial i ledaenu camwybodaeth sy’n gallu arwain at niwed difrifol. Hefyd, gall unrhyw un ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar gyfer llais, delweddau a fideos i greu beth bynnag maen nhw eisiau heb ganlyniadau.
Yr atebion rydym am eu cael:
Cyflwyno rheoliadau caeth ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddatblygu’n gyfrifol, gan sefydlu atebolrwydd i grewyr a safonau moesegol clir. Gweithredu prosesau profi trylwyr ar gyfer systemau deallusrwydd artiffisial i atal camwybodaeth a chyfyngu ar yr hyn y bydd deallusrwydd artiffisial yn rhoi cyngor arno. Dylid bod cyfyngiadau ar y math o gynnwys y gall offer deallusrwydd artiffisial ei greu, yn enwedig o ran cynnwys rhywiol.
Y problemau a welwn:
Mae hysbysebion ar-lein bellach yn rhan arferol o’r cynnwys y mae pobl ifanc yn ei weld ar-lein, ac mae hynny’n peryglu cael effaith negyddol ar eu hunan-barch a’u hymddygiad. Pan fydd dylanwadwyr yn hysbysebu i bobl ifanc, efallai na fyddan nhw bob amser yn dweud y gwir am yr hyn maen nhw’n ei werthu. Yn y pendraw mae cwmnïau technoleg yn rhoi blaenoriaeth i hysbysebion ar draul diogelwch a lles pobl ifanc.
Yr atebion rydym am eu cael:
Rheoliadau mwy caeth ar hysbysebion ar-lein y gallai pobl ifanc eu gweld, a’i gwneud yn haws adnabod y bobl hynny sy’n cael eu talu i gymeradwyo cynhyrchion. Dylai deallusrwydd artiffisial gael ei reoleiddio mewn hysbysebion a chynnwys sy’n cymeradwyo cynhyrchion. A dylai adnoddau addysgol edrych ar effaith hysbysebion ar-lein ar bobl ifanc, a’u helpu i gael mwy o reolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld yn eu ffrwd.
Y problemau a welwn:
Nid yw’r adnoddau sydd ar gael i riportio ymddygiad niweidiol ar gyfryngau cymdeithasol yn amddiffyn plant a phobl ifanc. Maen nhw’n aml yn gymhleth ac yn aneglur, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc yn llai tebygol o riportio problemau. Nid yw'r adnoddau riportio ar blatfformau blaenllaw yn effeithiol, ac mae pobl ifanc yn aml yn teimlo nad oes dim yn digwydd pan maen nhw yn riportio. Maen nhw hefyd yn teimlo nad oes cefnogaeth effeithiol i’w chael.
Yr atebion rydym am eu cael:
Dylid creu offer riportio haws a chanllawiau clir i ddefnyddwyr iau. Pan fydd pobl ifanc yn riportio cynnwys, dylai ymateb clir a chyflym roi gwybod i bobl ifanc bod y mater yn cael sylw, a dweud wrthynt ble i fynd i gael cymorth ychwanegol. Dylid bod pobl go iawn yn cymedroli’r ymateb a’r gefnogaeth hon, a dylent gyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc fel Childline.
Y problemau a welwn:
Mae preifatrwydd a rhannu data yn aml yn golygu optio i mewn yn ddiofyn ac mae pobl ifanc yn ansicr pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu amdanynt a pham, gan eu gwneud yn agored i risgiau preifatrwydd a bod eu data’n cael ei ddefnyddio heb iddynt fod yn llwyr ymwybodol o hynny. Yn ogystal, mae modelau deallusrwydd artiffisial yn cael eu hyfforddi gan ddefnyddio data heb ganiatâd, ac mae hynny’n gwneud pobl ifanc yn fwy ofnus ynglŷn â chamwybodaeth deallusrwydd artiffisial.
Yr atebion rydym am eu cael:
I roi sylw i beryglon preifatrwydd i bobl ifanc, dylai platfformau symud at optio allan o rannu data yn ddiofyn, defnyddio fframweithiau cydsyniad ar sail oedran, a bod yn gliriach ynghylch sut mae data’n cael ei ddefnyddio. Dylai diweddariadau diogelwch neu fanylion preifatrwydd a gyflwynir fod yn addas i bobl ifanc, fel eu bod yn hawdd eu darllen a’u deall.
Blwyddyn gyntaf grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein
Yn Ebrill dathlir diwedd y flwyddyn gyntaf o dymor dwy flynedd ein carfan bresennol o bobl ifanc yn ein grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein yn yr NSPCC. Er mai dim ond eu blwyddyn gyntaf yw hon, mae ein carfan 2024-2026 o bobl ifanc wedi cyfrannu’n sylweddol at y wybodaeth sydd gennym am farn pobl ifanc am ddiogelwch ar-lein, trwy gymryd rhan mewn uwchgynadleddau rhyngwladol, digwyddiadau preswyl, a hyd yn oed trwy gyfarfod llunwyr penderfyniadau allweddol fel y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol.
Wrth i ni ddathlu diwedd blwyddyn gyntaf Llais Ieuenctid Ar-lein, rydym yn myfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd a'u cyfraniadau hyd yn hyn.
Ar ôl proses recriwtio drylwyr, cynhaliodd ein pobl ifanc eu cyfarfod cychwynnol, gan ddod i adnabod ei gilydd, dweud beth wnaeth eu hysbrydoli i ymgeisio am y rôl a rhannu eu blaenoriaethau ar gyfer y rhaglen. Ymunodd llawer o bobl ifanc â Llais Ieuenctid Ar-lein am eu bod yn rhannu’r un angerdd dros wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel i bob person ifanc. Crynhowyd hyn gan un o'r bobl ifanc, "Mae yna bethau positif a negyddol am y byd ar-lein, ac rwyf am helpu eraill i gadw draw oddi wrth y pethau negyddol ar-lein a cheisio ei wneud yn lle positif a diogel."
Gweithiwyd gyda'n Tîm Brand a Chynnwys i ddatblygu brand newydd iddyn nhw eu hunain, Llais Ieuenctid Ar-lein, gan sicrhau bod eu henw yn adlewyrchu eu gweledigaeth ar gyfer grŵp sy'n canolbwyntio ar rannu lleisiau pobl ifanc fel y 'genhedlaeth ar-lein'.
Cyfarfu Tîm Llythrennedd Cyfryngau Ofcom â Llais Ieuenctid Ar-lein i drafod eu strategaeth. Ymgynghorwyd ynghylch beth sy'n achosi niwed a beth yw'r atebion. Roedd yn gyfle i’r grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein ddysgu am gynlluniau Ofcom ar gyfer atal cyfryngau niweidiol a sut y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu.
Gwahoddwyd ein pobl ifanc i ddigwyddiad mudiad BRAVE, lle anerchwyd tua 75 o bobl ar draws gwahanol sectorau i siarad ar drafodaeth banel i roi terfyn ar drais rhywiol yn erbyn plant. Roedd hyn wedyn yn bwydo i drafodaethau parhaus sy'n digwydd ledled y byd.
Arweiniodd eu holl waith hyd at y pwynt hwn at sesiwn breswyl tri diwrnod yn Stratford-upon-Avon lle daeth Llais Ieuenctid Ar-lein at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ynghylch diogelwch ar-lein. Ysgrifennodd y bobl ifanc eu maniffesto gyda chefnogaeth ein partneriaid corfforaethol yn Vodafone, gan adeiladu ar eu blaenoriaethau a dod at ei gilydd i sicrhau dull ar y cyd tuag at faterion diogelwch ar-lein. Roedd hefyd yn gyfle i ddathlu’r hyn a gyflawnwyd a'u gwaith hyd yma ac yn bwysicaf oll, i gael hwyl!
Mae'r 'Drafodaeth Ffonau Clyfar' yn adlewyrchu un o'r materion allweddol a drafodwyd gan grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein eleni. Y prif negeseuon yr oeddent am eu rhannu oedd bod manteision niferus i ffonau, megis dysgu, cyfathrebu a pharatoi ar gyfer y dyfodol yn fwy cyffredinol. Eu safbwynt cyffredinol oedd bod gwahardd ffonau clyfar yn gyfan gwbl i bobl ifanc yn ymddangos fel pe baent yn rhoi’r broblem o’r neilltu er mwyn delio â hi yn ddiweddarach yn hytrach na'i datrys. Fel rhan o'r gwaith hwn, cafwyd cyfarfod ag uwch gynhyrchydd ar gyfer BBC Panorama cyn eu rhaglen arbennig ar ffonau clyfar i rannu eu barn.
Yn ogystal â hyn, gweithiwyd gyda'n Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ar brosiect ymchwil Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gan helpu i ddatblygu atebion gyda newidiadau technegol, addysgol, deddfwriaethol a pholisi y gellid eu gweithredu i wneud Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn fwy diogel. Bellach mae’r rhain wedi'u cyhoeddi ar NSPCC Learning.
Cynhaliodd Llais Ieuenctid Ar-lein sesiwn allweddol ym mis Medi i ystyried datrysiadau y byddent yn eu datblygu i gadw plant yn fwy diogel ar-lein. Mae hyn yn adeiladu ar flaenoriaethau eu maniffesto ac mae'n rhywbeth yr ydym yn edrych ymlaen at rannu mwy amdano yn y dyfodol.
Gweithiodd Llais Ieuenctid Ar-lein gyda’r tîm y tu ôl i gynnwys NSPCC Learning i rannu'r cwestiynau diogelwch ar-lein a'r meysydd pwnc y dylai oedolion fod yn ymwybodol ohonynt i helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Buon nhw hefyd yn cyfrannu at ddadansoddi nodweddion diogelwch ar draws tair llwyfan cyfryngau cymdeithasol poblogaidd, gan roi persbectif pobl ifanc arnynt.
Helpodd Llais Ieuenctid Ar-lein Vodafone i feirniadu eu cystadleuaeth ysgrifennu creadigol First News. Fe wnaethon nhw ddarllen straeon a ysgrifennwyd gan bobl ifanc eraill am ddiogelwch ar-lein a helpu i ddewis y ceisiadau buddugol ar gyfer llyfr a gaiff ei argraffu ar gyfer ysgolion.
Daeth cyfle cyffrous i gyfarfod Peter Kyle, yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg sydd newydd ei benodi, i drafod ei syniadau ynghylch gwaharddiad ffôn posibl, camau yn y dyfodol i gadw plant yn ddiogel ar-lein, yn ogystal â chyfle i’n pobl ifanc rannu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer diogelwch plant ar-lein. Cymerodd rhai ran mewn cyfweliad ar wahân gydag ef hefyd a chawsant gyfle i weld beth oedd yn digwydd y tu ôl i'r llenni yn ei gyfweliad â'r BBC!
Cafodd Llais Ieuenctid Ar-lein sesiwn ar y cyd â grŵp ieuenctid arall yn yr NSPCC, y Bwrdd Pobl Ifanc ar gyfer Newid. Roedd yn gyfle i gasglu gwybodaeth am brofiadau'r bobl ifanc o weithio gyda'r NSPCC a sut y gellir defnyddio’r profiadau hyn i ddatblygu'r 'ateb' ar gyfer Llais Ieuenctid Ar-lein a pha wybodaeth a ddysgwyd y gallwn ei rhannu ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Hefyd cymerodd tri aelod o grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein ran yn y gwaith o ffilmio cynnwys diogelwch ar-lein newydd i weithwyr proffesiynol ar NSPCC Learning. Roedd y ffaith ei bod yn teimlo fel set ffilm go iawn yn gwneud y profiad hyd yn oed yn fwy cofiadwy iddyn nhw.
Bwydodd Llais Ieuenctid Ar-lein i'r Prosiect Ymchwil Merched gyda'n cydweithwyr Polisi a Materion Cyhoeddus, gan ganolbwyntio’r cynllunio ar ddiogelwch o fewn llwyfannau, a'r hyn sy'n arwain at wneud sefyllfa merched ifanc yn fwy bregus ar-lein.
Cefnogodd Llais Ieuenctid Ar-lein ein gwaith datblygu i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn delweddau a hunan-gynhyrchir trwy rannu pa negeseuon a oedd wedi aros yn y cof pan oeddent yn iau a pha negeseuon y gallwn ni fel NSPCC eu gwella o fewn ein gwaith datblygu.
Cyfarfu un aelod o'r grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein â Josh MacAlister, ochr yn ochr â phobl ifanc eraill, i drafod ei fil ffonau mwy diogel. Ymunodd 4 elusen arall â nhw ac roedd gan Josh ddiddordeb mawr mewn clywed beth oedd y bobl ifanc yn ei feddwl am ei fil.
Recordiodd Llais Ieuenctid Ar-lein hefyd bodlediad yn rhannu'r hyn y maen nhw'n ei gredu y dylai gweithwyr proffesiynol fod yn fwy ymwybodol ohono o safbwynt diogelwch ar-lein. Dyma bodlediad cyntaf NSPCC Learning a oedd yn cynnwys llais pobl ifanc yn unig!
Daeth Uwchgynhadledd Deallusrwydd Artiffisial Plant Alan Turing â phlant o bob cwr o'r DU at ei gilydd, gan gynnwys ein Llais Ieuenctid Ar-lein, i rannu eu negeseuon i arweinwyr byd-eang, llunwyr polisi a datblygwyr Deallusrwydd Artiffisial ar sut y dylai dyfodol Deallusrwydd Artiffisial edrych. Cymeron nhw ran mewn trafodaeth banel fel grŵp dan gadeiryddiaeth ein hymddiriedolwr Sheanna Patelmaster i rannu pwyntiau eu maniffesto ar Ddeallusrwydd Artiffisial a chael gwybodaeth gan bobl ifanc eraill hefyd.
Yn dilyn hyn, cafodd Llais Ieuenctid Ar-lein gyfle anhygoel i fynd dramor gan ymweld â Pharis yn ystod y 3ydd Uwchgynhadledd Gweithredu Deallusrwydd Artiffisial fyd-eang, lle cymerwyd rhan mewn digwyddiad ymylol a gynhaliwyd gan yr NSPCC a'n partneriaid Common Sense Media a The Lego Group. Rhannodd Llais Ieuenctid Ar-lein sylwadau agored a galwadau i weithredu o'r Uwchgynhadledd Plant yn Llundain yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau panel.
Cymerodd Llais Ieuenctid Ar-lein ran mewn trafodaeth tu ôl i ddrysau caeëdig gyda Henri Verdier, Llysgennad Ffrainc dros Faterion Digidol a'i ddirprwy Paul Schmite, i ddysgu sut mae Ffrainc yn gwrando ar blant a phobl ifanc wrth drafod cynlluniau i gadw plant yn ddiogel ar-lein.
Cafwyd trafodaeth bord gron yn 10 Downing Street gyda'r Prif Weinidog a chrewyr y sioe Netflix Adolescence, gan drafod a ddylid ei dangos mewn ysgolion ai peidio. Gwahoddwyd un o'n haelodau i gymryd rhan yn y drafodaeth hon, ac roedd yn hynod falch o fod yn rhan o gynulleidfa gyda'r Prif Weinidog!
Mewn Cynhadledd allanol Deallusrwydd Artiffisial y DU, a gynhaliwyd gan Sefydliad Alan Turing, cymerodd aelod o grŵp Llais Ieuenctid Ar-lein ran mewn trafodaeth banel a thrafodaeth gyda chynghorydd polisi o'r Adran Addysg ynghylch effeithiau Deallusrwydd Artiffisial.
Wrth nesáu at ddiwedd eu blwyddyn gyntaf fel grŵp, mae Llais Ieuenctid Ar-lein yn cael y cyfle i weithio gyda sefydliadau allanol fel Edelman ac OMD i benderfynu pa negeseuon y maen nhw am eu cyflwyno o'u maniffesto dros y flwyddyn nesaf.
Rydym yn gobeithio y bydd 25-26 yr un mor gyffrous i'r grŵp ac edrychwn ymlaen at rannu diweddariad arall gyda chi yn fuan.
Rydym yn gobeithio y bydd 25-26 yr un mor gyffrous i'r grŵp ac edrychwn ymlaen at rannu diweddariad arall gyda chi yn fuan.
Rhagor o wybodaeth am sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein
Cefnogir yn falch gan ein partner Vodafone UK.