Sut i ymdopi pan fydd plant yn strancio

Camu’n ôl am 5: awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i reoli plant sy’n strancio neu’n ymddwyn yn wael.

Beth yw strancio?

Wrth i fabis ddatblygu i fod yn blant bach, maen nhw'n dod o hyd i ffyrdd newydd o wthio'r ffiniau a mynegi eu hunain. Felly pan fydd eich plentyn yn cynhyrfu, efallai y bydd yn sgrechian, yn crio, neu'n cicio, taro neu frathu hyd yn oed.

Gall hyn beri gofid i chi y tro cyntaf mae'n digwydd, ac os yw'n digwydd yn gyhoeddus mae'n gallu gwneud i chi deimlo cywilydd.

Mae pob plentyn yn camymddwyn weithiau. Mae'n rhan arferol o ddysgu'r rheolau. Ac weithiau dydyn nhw ddim yn gwybod beth sy'n ymddygiad da a beth sy'n ymddygiad gwael.

Sut mae ymateb i strancio

Os ydych yn teimlo ar ben eich tennyn, mae’n syniad da Camu’n ôl am 5. Dilynwch y camau syml hyn:

    • Stopio.
    • Anadlu.
    • Ymateb yn dawel.

Pan fyddant yn dechrau sgrechian yn y siop neu'n colli arni amser bwyd, mae'n normal teimlo'n rhwystredig. Ond gallai ymateb yn flin arwain at niwed emosiynol a chorfforol. A dyw hynny byth yn iawn.

Mae plant yn ymateb i'n hymateb ni, a gall hynny effeithio ar eu hymddygiad yn y dyfodol. Felly gwnewch eich gorau i ymateb yn dawel.

Os na allwch chi ddod o hyd i reswm am y strancio yn syth (efallai eu bod eisiau bwyd, wedi blino neu angen ychydig o ofal cariadus), mae pethau gallwch chi roi cynnig arnynt i'w tawelu.

    • tynnu eu sylw gan ddefnyddio rhywbeth fel llyfr
    • tynnu eu sylw at rywbeth arall sy'n digwydd gerllaw
    • os ydyn nhw'n flin, dweud wrthynt eich bod yn gwybod sut maen nhw'n teimlo.
    • os ydyn nhw'n gofyn am rywbeth a'ch bod chi wedi dweud na, peidiwch ag ildio
    • peidiwch â rhoi losin iddynt i'w tawelu.

Sut mae rheoli ymddygiad gwael

Bydd ymddygiad eich plentyn yn gwella pan fydd yn gwybod beth yw'r rheolau, er mwyn iddo allu cadw atynt. Felly gwnewch eich gorau i ymateb yn yr un modd bob amser. Dywedwch beth rydych chi am i'ch plentyn ei wneud, yn glir ac mewn ffordd y bydd yn ei deall. Ailadroddwch hyn os oes angen. Ac os nad yw eich plentyn yn dilyn eich cyfarwyddiadau, penderfynwch ar ganlyniad priodol – er mwyn iddo wybod i beidio gwneud hynny eto.

Dewiswch ganlyniad sy'n addas i'r sefyllfa. Er enghraifft, os yw eich plant yn ffraeo dros degan, cymerwch y tegan oddi arnynt. Esboniwch pam eich bod yn ei gymryd. Cadwch at eich gair, ac ar ôl 5 munud rhowch y tegan yn ôl iddynt, er mwyn iddynt allu dangos i chi eu bod yn gallu ymddwyn yn y ffordd rydych chi'n ei dymuno.

Pan fyddant yn camymddwyn, cymerwch anadl ddofn a defnyddio llais tawel a phwyllog. Mae eich plentyn yn fwy tebygol o lawer o wrando arnoch chi os ydych chi mewn rheolaeth – dim ond eich gwneud yn fwy blin a chynhyrfu eich plentyn y bydd gweiddi yn ei wneud.

Mae pob plentyn yn wahanol ac mae'n bwysig peidio ei gymharu â phlant eraill. Chi sy'n adnabod eich plentyn orau a gallwch ei helpu i ddeall beth yw ymddygiad da drwy osod rheolau a chreu ffiniau.

Dangoswch anwyldeb. Gall fod yn goflaid, yn sws neu'n winc; mae pob math o hoffter yn gallu helpu plant i deimlo bod rhywun yn gofalu amdanynt ac yn eu caru, ac i fagu eu hyder. Mwynhewch dreulio amser â'ch plentyn. Bydd treulio amser gyda'ch gilydd a gwneud gwahanol weithgareddau fel darllen a chwarae yn eich helpu i feithrin perthynas iach â'ch plentyn.

A chofiwch ganmol ymddygiad da. Os byddwch yn canmol yr ymddygiad rydych chi'n dymuno ei weld, mae eich plentyn yn fwy tebygol o'i ailadrodd.

Mae bod yn rhiant yn gallu bod yn waith caled, yn enwedig pan fyddwch yn cydbwyso sawl peth. Ceisiwch ddod o hyd i amser bob wythnos i ymlacio neu wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau. Mae'n llawer haws gofalu am eich plentyn os ydych chi'n gofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Mae'n anodd bod yn rhiant pwyllog a digyffro os ydych chi dan straen, wedi blino neu'n teimlo'n bryderus. Felly cofiwch gael ychydig o amser gwerthfawr eich hun, hyd yn oed os mai dim ond am awr neu ddwy mae hynny.

Cyngor gan rieni eraill

Mae bod yn rhiant yn gallu bod yn brofiad gwych a gwerth chweil. Ond mae'n gallu bod yn hynod flinedig a heriol hefyd, yn enwedig pan fydd ymddygiad gwael eich plentyn yn mynd yn drech na chi.

Felly mae'n bwysig cofio stopio, anadlu, ac ymateb yn dawel.

Yn y fideo hwn, mae rhieni eraill yn trafod beth maen nhw'n ei wneud i aros yn bwyllog a chamu'n ôl am 5:

{Quotation}

Llwythwch ein canllaw Rhianta Cadarnhaol

Rydyn ni’n gwybod pa mor heriol mae cydbwyso’r holl ofynion sydd ar rieni yn gallu bod. Felly rydyn ni wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd.

Llwythwch ein canllaw  (PDF)