Bachgen ifanc yn gwenu wrth beintio yn yr ysgol.

Ein Gwaith yng Nghymru

Rydyn ni’n gweithio i atal achosion o gam-drin yng Nghymru. Gallwch chi ein helpu i gefnogi bob plentyn sydd ein hangen ni.

Gall camdriniaeth ddifetha plentyndod ac mae ei effeithiau yn gallu para am oes. Ond, gyda’ch help chi, rydyn ni’n gweithio i atal achosion o gam-drin yng Nghymru – a helpu plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin i ailadeiladu eu bywydau.

Ein Gwasanaethau yng Nghymru

Rydyn ni’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru pan fydd ein hangen arnynt er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn cael y cyfle gorau mewn bywyd.

Mae ein Canolbwynt Cenedlaethol yn cynnig cymorth i blant, i deuluoedd ac i weithwyr proffesiynol. Rydyn ni’n cefnogi rhieni a theuluoedd i ofalu am eu plant ac yn darparu cymorth therapiwtig i helpu plant i symud ymlaen o gamdriniaeth.

Hefyd rydyn ni’n rhoi cymorth a chefnogaeth drwy linell gymorth yr NSPCC, Childline a’n gwaith gydag ysgolion.

Cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc am ystod eang o faterion, a chymorth ar-lein a dros y ffôn, unrhyw bryd. Mae gan Childline 2 ganolfan yng Nghymru a gallwch gysylltu â Childline yn Gymraeg.

Gysylltu â Childline yn Gymraeg

Mae llinell gymorth yr NSPCC yn lle i oedolion gysylltu drwy ffonio neu drwy fynd ar-lein i gael cyngor neu i rannu eu pryderon am blentyn, yn ddienw os ydynt yn dymuno. Mae gennym ni wasanaeth cyfieithu ar y pryd y gallwch chi gael mynediad ato i gysylltu â’r llinell gymorth yn Gymraeg neu mewn ieithoedd eraill.

Mae 1 o bob 5 plentyn yn y DU wedi dioddef camdriniaeth, sy’n difetha eu plentyndod. Dyna pam rydyn ni’n ymweld ag ysgolion cynradd ledled Cymru i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar blant i aros yn ddiogel rhag niwed ac i ddweud wrth rywun os ydyn nhw’n poeni.

Gwirfoddoli yng Nghymru

Ymunwch â’r frwydr dros bob plentyndod drwy un o’n cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru.

Ymunwch â’n tîm gwasanaeth ysgolion fel gwirfoddolwr i helpu i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, a rhoi’r hyder iddyn nhw i chwilio am gymorth os bydd ei angen arnynt. Hefyd, mae angen gwirfoddolwyr arnom sy’n gallu rhannu’r negeseuon hollbwysig hyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ffeindiwch allan mwy am wirfoddoli

Mae Childline wedi bod yn lle diogel i blant ers 30 mlynedd. Ond nawr, dim ond i 3 o bob 4 plentyn sydd ag angen ein help rydyn ni’n gallu ymateb. Helpwch ni i fod yn gefn i fwy o blant drwy un o’n rolau gwirfoddoli.

Ffeindiwch allan mwy am wirfoddoli

 
image3caxq.png
 
 
 
 

Ymunwch â’n gwirfoddolwyr codi arian gwych a busnesau bach ledled Cymru i’n helpu i frwydro dros bob plentyndod.

Ffeindiwch allan mwy am wirfoddoli

Ymgyrchu

Rydyn ni’n rhoi llais i blant pan nad oes neb yn gwrando. Rydyn ni’n sefyll i fyny dros blant yng Nghymru drwy ganfod y ffordd orau i atal cam-drin ac esgeuluso. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gryfhau polisïau a deddfwriaeth yn eu hannog i gymryd camau i ddiogelu plant yn well. Dewch yn ymgyrchydd a helpwch ni i fynnu ei bod yn werth brwydro dros holl blant Cymru.

Mae hyd at 1 o bob 5 o famau yn y DU yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni. Mynnwch gefnogaeth iechyd meddwl i bob mam er mwyn i bob plentyn a phob teulu gael y dechrau gorau.

O sgrechian yn yr archfarchnad i golli arni yn ystod amser bwyd, mae ymddygiad plant yn gallu bod yn heriol. Os ydych yn teimlo ar ben eich tennyn, Camwch yn ôl am 5 a dilynwch ein camau syml tuag at rianta cadarnhaol.

Ein nod yw dysgu’r rheol PANTS i rieni a phlant. Mae gennym ystod o ganllawiau PANTS ar gyfer rhieni a gofalwyr gan gynnwys canllawiau Cymraeg.

O'r funud y caiff eich babi ei eni, bob tro rydych chi’n siarad, yn canu neu’n chwarae gydag ef, nid yn unig rydych chi’n bondio, rydych chi’n datblygu ei ymennydd. Cofrestrwch i gael awgrymiadau ar ddatblygu’r ymennydd.

Cysylltu â Ni

Tŷ Diane Engelhardt
Llys Treglown
Heol Dowlais
Caerdydd
CF24 5LQ

02920 108081

Cyswllt y cyfryngau

[email protected]

02920 108134

Canolbwynt Cenedlaethol
Tŷ Diane Engelhardt
(Uned 2) Llys Treglown
Heol Dowlais
Caerdydd
CF24 5LQ

02920 108080