The 'Hide page' button at the bottom left of your screen will quickly take you to Google.

Alternatively use Ctrl + W on your keyboard to close this tab.

A concerned adult making a Helpline call.

Rhoi gwybod am gam-drin plant

Mae ein Llinell Gymorth (llais dros y ffôn) ar gael rhwng 10am a 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar hyn o bryd. Gallwch chi anfon neges e-bost i [email protected] neu lenwi ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin, a hynny yn rhad ac am ddim unrhyw bryd.

Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni

Os ydych chi’n poeni am blentyn, dilynwch eich greddf a chysylltwch â Llinell Gymorth yr NSPCC. Bydd ein tîm arbenigol yn gwrando, yn cynghori ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol.

Amcangyfrifir bod 1 o bob 20 plentyn wedi cael eu cam-drin yn rhywiol. Ac nid yw oedolion yn rhoi gwybod yn ddigonol am gam-drin plant yn rhywiol. Mae’n amser i hynny newid.

Dydy hi byth yn rhy hwyr i siarad â ni. A gallai’r hyn rydych chi’n ei rannu wneud gwahaniaeth sy’n newid bywyd plentyn.

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth yr NSPCC drwy ffonio 0808 800 5000, anfon neges e-bost i [email protected] neu lenwi ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin.

Oherwydd cynnydd yn y galw ymhob rhan o’n gwasanaeth, mae ein Llinell Gymorth (llais dros y ffôn) ar gael rhwng 10am a 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar hyn o bryd. Gallwch chi anfon neges e-bost i [email protected] neu lenwi ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin, a hynny yn rhad ac am ddim unrhyw bryd. Os ydych chi’n meddwl bod plentyn mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cysylltu â ni

Mae ein tîm Llinell gymorth yma i’ch cefnogi chi mewn ffordd ddi-straen a chyfforddus. Mae gwybod beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n cysylltu yn helpu i dawelu’ch meddwl ynglŷn â’r broses.

Bydd pobl sy’n delio â galwadau yn ateb y ffôn ac yn gofyn ychydig o gwestiynau sylfaenol i’w helpu i ddeall eich pryderon. Efallai y byddan nhw’n rhoi atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Os ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc neu os ydych chi angen cyngor ar fagu plant, fe wnawn nhw eich cysylltu chi ag arbenigwr amddiffyn plant.

Os byddwch chi’n anfon neges e-bost atom neu’n cyflwyno ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin, fe wnawn nhw flaenoriaethu’r ymholiadau mwyaf brys.

Bydd arbenigwr amddiffyn plant yn gwrando ar eich pryderon ac yn gofyn unrhyw gwestiynau fydd ganddyn nhw. Mae hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn deall yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu, yn asesu’r sefyllfa ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r camau nesaf.

Os byddwch chi’n anfon neges e-bost atom neu’n cyflwyno ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin, fe fyddan nhw'n ysgrifennu atoch chi gyda chyngor neu rhywfaint o gwestiynau. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi ffonio'r Llinell gymorth os ydych chi’n gallu gwneud hynny.

Pan fydd pryder difrifol ynglŷn â phlentyn, ac os ydych chi wedi rhannu gwybodaeth am fanylion y plentyn, bydd yr arbenigwr amddiffyn plant yn llunio adroddiad ac yn rhannu'r wybodaeth â'r gwasanaethau cymdeithasol. Gelwir hyn yn ‘atgyfeirio’.

Efallai y byddan nhw hefyd yn cysylltu â'r heddlu lleol os yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol. Os na fydd angen i’r Llinell gymorth atgyfeirio, fe fyddan nhw’n rhoi cyngor i chi ar beth ddylech chi ei wneud neu’n rhoi gwybodaeth am wasanaethau lleol.

Rydyn ni bob amser yn eich annog chi i gysylltu eto os ydych chi angen gwneud hynny, waeth beth fo'r canlyniad wedi i chi gysylltu â ni. Fe fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth fyddwch chi neu unrhyw un arall yn ei rhannu ynglŷn â'r plentyn neu'r person ifanc rydych chi’n poeni amdano.

Rydyn ni’n deall efallai y byddwch chi eisiau gwybod beth fydd yn digwydd i'r plentyn neu'r person ifanc. Fodd bynnag, mae gennym ni ddyletswydd i ddiogelu preifatrwydd yr unigolion hynny ac ni fyddwn yn gallu rhannu'r wybodaeth honno.

Rhoi gwybod am gam-drin plant yn ddienw

Mae yna lawer o resymau pam byddai rhywun yn dymuno bod yn ddienw wrth gysylltu â ni. Does dim rhaid i chi ddweud wrthym pwy ydych chi, lle ydych chi’n byw na rhannu eich manylion cyswllt. Os ydych yn dewis rhannu unrhyw fanylion â ni, fe allwch chi ddweud wrthym am beidio â'u rhannu ag asiantaethau eraill – fel yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol.

Os ydym ni’n meddwl bod plentyn mewn perygl, mae gennym ni ddyletswydd i rannu gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni ag asiantaethau eraill. Ond fe wnawn ni barchu eich dymuniadau ynglŷn â bod yn ddienw. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am aros yn ddienw, ffoniwch 0808 800 5000 neu anfonwch neges e-bost i [email protected]

Sut i gysylltu â ni

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth yr NSPCC drwy ffonio 0808 800 5000, anfon neges e-bost i [email protected] neu lenwi ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin.

Mae ein Llinell Gymorth (llais dros y ffôn) ar gael rhwng 10am a 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar hyn o bryd. Gallwch chi anfon neges e-bost i [email protected] neu lenwi ein ffurflen ar-lein ar gyfer rhoi gwybod am achos o gam-drin, a hynny yn rhad ac am ddim unrhyw bryd. Os ydych chi’n meddwl bod plentyn mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999.

Mae galwadau am ddim o linellau tir a’r mwyafrif o ffonau symudol. Mae pob galwad yn cael ei recordio at ddibenion hyfforddi ac ansawdd.

Ffoniwch +44 203 879 8560 os ydych yn byw y tu allan i’r DU ond os ydych chi’n poeni am blentyn sy’n byw yn y DU. Bydd rhaid talu am alwadau y tu allan i'r DU.

Rydyn ni’n elusen yn y DU, ac felly dydyn ni ddim yn gallu sicrhau y byddai camau diogelu yn cael eu cymryd yn gyflym pe byddai pryderon yn cael eu codi ynglŷn â phlant sy’n byw mewn gwledydd eraill, neu’n ddinasyddion o wledydd eraill.

Os ydych chi’n poeni am blentyn o wlad arall, y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â’r heddlu neu’r asiantaethau lles lleol.

Anfonwch e-bost atom ni yn [email protected]. Fe fyddwn yn anelu i ymateb o fewn 72 awr.

Rhannwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am y plentyn a’r pryderon sydd gennych chi. Os oes gennych chi unrhyw fanylion fyddai’n helpu i adnabod y plentyn, fel enw a chyfeiriad, rhannwch y rheini hefyd.

Fe allwch chi e-bostio eich rhif ffôn a’ch enw i ni hefyd (neu enw ffug os byddai’n well gennych chi) ac yna fe allwn ni eich ffonio chi.

Os oes gennych we-gamera, gallwch gysylltu â ni drwy SignVideo.

Mae SignVideo sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfrifiadur, Mac, iOS (iPhone/iPad) a ffonau clyfar Android (4.2 neu uwch).  

Pan fyddwch wedi cael eich cysylltu, bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn ymddangos ar eich sgrin. Gallwch esbonio i’r dehonglydd beth yw eich pryderon a dweud wrthyn nhw eich bod chi eisiau cysylltu â'r NSPCC. Fe fyddan nhw'n cysylltu â ni ac yn trosglwyddo eich pryderon i un o’n cwnselwyr.

Bydd y cwnselydd yn gwrando ar eich pryderon, yn asesu’r wybodaeth, ac yn rhoi cyngor ar ddull gweithredu. Yna bydd y dehonglydd yn trosglwyddo'r wybodaeth a’r cyngor a roddwyd gan y cwnselydd i chi.

Mae’r gwasanaeth fideo Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar hyn o bryd rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am ac 1pm ar ddydd Sadwrn.

Mae gennym linellau cymorth penodol sy’n cynnig cyngor ar faterion penodol fel anffurfio organau cenhedlu benywod, gangiau, radicaleiddio a chwythu'r chwiban.