43026 Exp 11 2026

Contact the NSPCC Helpline

You can contact our Helpline by calling 0808 800 5000 or emailing [email protected].

Our voice Helpline is available 10am–4pm Monday to Friday. You can email [email protected] at any time for free. You have the option to remain anonymous.

If we have not yet responded to you and your concerns for the safety of a child increase, please contact the police or local Children’s Services directly. Please be assured that we'll action all contacts that our Helpline receives.

Find out more
;

Hero 43512 Exp 2027 04

Under 18?

Childline offers free, confidential advice and support whatever your worry, whenever you need help.

0800 1111

Contact Childline
;
LGBTQ+ Online Blackmail - 1440x900.jpg

Deall Profiadau Pobl Ifanc LHDTC+ o Flacmel Ar-lein

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc LHDTC+ i ddysgu mwy am flacmel ar-lein.

Cofrestrwch isod
Cofrestrwch isod

(Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg — Read this page in English)

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc LHDTC+ (13–19 oed) ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel i ddysgu mwy am flacmel ar-lein

P’un a ydych chi wedi bod yn rhan ohono, neu ei fod wedi effeithio arnoch chi, neu eich bod yn awyddus i rannu eich barn. Hoffem glywed gennych chi

Rydym yn gwybod bod y sefyllfaoedd hyn yn gallu bod yn gymhleth. Dyna pam rydym yn awyddus i glywed gan bobl ifanc sydd â phob math o brofiadau — er mwyn cael deall sut mae'n digwydd, sut mae'n effeithio ar bobl ifanc, a pha fath o gymorth sy'n helpu. 

Gall eich llais helpu i greu gwasanaethau ac adnoddau gwell ar gyfer pobl ifanc LHDTC+.

Beth yw Blacmel Ar-lein? 

58271-2029-03.jpg

Blacmel ar-lein yw pan fydd rhywun yn ceisio dylanwadu ar rywun arall, neu roi pwysau arno, drwy ddweud y bydd yn rhannu pethau preifat. Gall hyn gynnwys lluniau, fideos, negeseuon neu wybodaeth bersonol - fel rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd neu berthnasoedd rhywun, yn enwedig os nad yw wedi rhannu’r pethau hyn â phobl eraill.

Gallai blacmel ar-lein gynnwys gofyn am luniau neu fideos (fel lluniau noeth), arian, cyswllt parhaus, neu aros mewn perthynas. Weithiau roedd y pethau preifat neu bersonol hyn wedi cael eu rhannu o wirfodd yn y lle cyntaf; ar adegau eraill efallai eu bod wedi cael eu cymryd, eu ffugio neu eu rhannu heb ganiatâd.

Weithiau gall yr unigolyn feithrin ymddiriedaeth i ddechrau drwy esgus bod yn rhywun arall. Dro arall, gall yr unigolyn fod yn rhywun rydych yn ei adnabod mewn bywyd go iawn.

Gall blacmel ar-lein ddigwydd drwy negeseuon preifat, sgyrsiau fideo, cyfryngau cymdeithasol, neu fannau eraill ar-lein — a rhwng dieithriaid, ffrindiau, aelodau o'r teulu, neu bobl mewn perthnasoedd.

Gwybodaeth am yr Ymchwil

Mae'r astudiaeth hon yn cael ei harwain gan ymchwilwyr LHDTC+ ym Mhrifysgol Birmingham a Phrifysgol Nottingham Trent, mewn partneriaeth â'r NSPCC.

Mae wedi’i chynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc LHDTC+ — sy'n golygu eu bod wedi helpu i ddylunio'r cwestiynau a gwneud yn siŵr ei bod yn adlewyrchu profiadau go iawn. Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys pobl LHDTC+ hefyd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfweliad, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â'r tîm ymchwil. Mae'r ddau ymchwilydd yn ystyried eu hunain yn LHDTC+, yn cadarnhau trawsrywedd, ac mae ganddynt brofiad o weithio ar bynciau sy'n ymwneud â LHDTC+:

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, tîm y prosiect ac atebion i unrhyw gwestiynau y gall fod gennych am y gwaith ymchwil yn y taflenni gwybodaeth isod.

Lawrlwythwch y taflenni gwybodaeth

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan?

42003-exp-2026-01.jpg

Gallwch gymryd rhan os ydych chi:

  • Rhwng 13–19 oed

  • Yn byw yn y DU neu Ynysoedd y Sianel

  • Yn ystyried eich hun yn LHDTC+

Nid oes angen i chi gael caniatâd gan riant neu warcheidwad, ac mae popeth yn gyfrinachol.

Dewiswch sut hoffech chi gymryd rhan:

Cyfweliad ar-lein

Mae’r cyfweliadau ar gyfer unigolion 16 oed a hŷn. Byddwch yn siarad ag ymchwilydd LHDTC+ sy'n deall y materion hyn ac a fydd yn gwrando heb feirniadu. Bydd opsiwn ar gael i chi gofrestru ar gyfer cyfweliad ar ddiwedd yr arolwg ar-lein.

Hoffech chi gael gwybod mwy cyn penderfynu?

Lawrlwythwch ein taflenni gwybodaeth i gael gwybod mwy.

Gwasanaethau cymorth

42003-exp-2026-01.jpg

Os ydych chi'n teimlo'n ofnus, dan bwysau, neu'n ansicr ar ôl cael profiad o flacmel ar-lein, neu ar ôl bod yn rhan ohono, mae cefnogaeth ar gael.

Mae gwasanaethau cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael ledled y DU sy’n gallu helpu. P’un a ydych chi eisiau siarad â rhywun, deall beth sydd wedi digwydd, neu gael cefnogaeth emosiynol, mae’r adnoddau isod ar gael i chi.

  • Argyfwng: Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol.
  • Dim argyfwng: Ffoniwch 101 i roi gwybod am drosedd nad yw’n frys.
  • Gallwch roi gwybod ar-lein hefyd drwy wefan eich heddlu lleol.
  • Switchboard: Cefnogaeth i bobl LHDTC+ dros y ffôn, sgwrs fyw neu e-bost. Ffoniwch 0300 330 0630 neu ewch Switchboard.

  • GALOP: Cymorth i bobl LHDTC+ gyda chamdriniaeth, trais neu droseddau casineb. Ffoniwch 0800 999 5428 neu ewch GALOP

  • Childline: Cefnogaeth i bobl ifanc dan 19 oed dros y ffôn, sgwrs fyw neu e-bost. Ffoniwch 0800 1111 neu ewch i Childline
  • The Mix: Cefnogaeth a chyngor i bobl dan 25 oed am unrhyw beth rydych chi’n mynd drwyddo. Ffoniwch 0808 808 4994 neu ewch i  The Mix
  • Shout: 2Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl 24/7 dros neges destun i bobl ifanc. Tecstiwch y gair SHOUT i 85258 neu ewch i Shout
  • YoungMinds: Cefnogaeth a gwybodaeth am iechyd meddwl i bobl ifanc. Ewch i YoungMinds
  • Papyrus: Cymorth iechyd meddwl ac atal hunanladdiad (i bobl dan 35 oed). Ffoniwch 0800 068 4141, tecstiwch 07860 039967 neu ewch i Papyrus
  • Rape Crisis:  Cymorth i unrhyw un dros 16 oed y mae trais rhywiol yn effeithio arnynt. Ffoniwch 0808 802 9999 neu ewch i Rape Crisis
  • The Survivors Trust: Cymorth ledled y DU i bobl sydd wedi goroesi trais rhywiol. Ffoniwch 08088 010 818 neu ewch i The Survivors Trust.

Mewn partneriaeth â …

274906_6 (1).jpeg