Delio â sgyrsiau anodd gydag oedolion

Mae cael sgyrsiau anodd gydag oedolion eraill yn gallu bod yn anodd, yn enwedig os yw’n ymwneud â diogelwch neu les plentyn. Ond mae gennyn ni gyngor i helpu i’r sgyrsiau hyn deimlo’n haws, yn ogystal â chyngor ar beth i’w wneud os ydych chi’n teimlo nad yw sgwrs yn ddigon.

Pryd i gael sgwrs anodd

Mae llawer o resymau pam y gallech orfod cael sgwrs a allai fod yn anodd gydag oedolyn arall. Gallai ymwneud â:

  • diogelwch plentyn
  • defnyddio cyffuriau neu alcohol
  • lles meddyliol rhywun
  • achos posib o esgeuluso plentyn.

Neu unrhyw beth arall rydych chi’n teimlo bod angen i chi siarad amdano.

Cyn i chi gael sgwrs anodd, mae’n bwysig ystyried ychydig o gwestiynau.

Ai chi yw’r person iawn i godi’r mater? Os ydych chi’n siarad am bwnc a allai fod yn sensitif, meddyliwch a fyddai rhywun arall yn fwy addas i ddechrau’r sgwrs.

A allwch chi ymddiried yn yr unigolyn arall? Os ydych chi’n poeni y gallai ymddwyn yn ddifrïol neu’n ormesol, rhannwch eich pryderon gyda gweithiwr proffesiynol yn hytrach. Bydd ganddynt brofiad o ddelio ag iaith ac ymddygiad difrïol ac yn gwybod sut orau i helpu.

Pryd yw’r amser iawn i siarad? Efallai y byddai’n well aros am adeg pan nad oes plant o gwmpas, a gall yr unigolyn rydych chi eisiau siarad ag ef roi ei holl sylw i chi. Os ydych chi eisiau siarad am ddefnyddio alcohol neu gyffuriau, arhoswch nes eich bod yn siŵr ei bod yn sobr. Gallai dechrau sgwrs anodd ar adeg amhriodol wneud y sefyllfa’n waeth.

Yn gyffredinol, mae rhai achosion lle nad yw sgwrs yn mynd i fod yn gynhyrchiol nac yn briodol. Ond os allwch chi daro ar yr amser iawn ac yn y lle iawn, gall sgyrsiau gonest rhwng oedolion wneud newidiadau enfawr i blant. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi am ddechrau’r sgwrs, mae ein Llinell Gymorth yma i’ch helpu.

Sut i ddechrau sgwrs anodd

Pan fyddwch wedi penderfynu mai sgwrs yw'r peth iawn i'w wneud, gall hyn dal i deimlo'n aruthrol o anodd. Ond gallwch wneud sgwrs anodd yn haws drwy ddilyn y camau hyn:

Cymerwch funud i feddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud, yna dod o hyd i le ac amser cyfforddus i ddechrau’r sgwrs. Cofiwch, allwch chi ddim cynllunio ar gyfer sut byddan nhw’n ymateb, ond gall stopio a meddwl eich helpu i deimlo’n fwy hyderus a pharod.

Efallai y byddan nhw eisiau siarad, neu efallai na fyddan nhw’n barod i siarad. Gadewch iddynt gymryd eu hamser. Peidiwch â gorfodi’r peth.

Ceisiwch fod yn agored i’r hyn mae’r unigolyn arall yn ei ddweud. Byddwch yn sensitif i’r hyn rydych chi’n ei glywed.

Dangoswch i’r unigolyn arall eich bod chi yna iddyn nhw. Cynigiwch help lle gallwch chi, ond cofiwch mai dim ond hyn a hyn allwch chi ei wneud. Mae’n bwysig derbyn na allwch chi ddatrys pob problem. 

Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod eich bod wedi gwrando arnyn nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi deall beth maen nhw wedi’i ddweud neu helpwch nhw i benderfynu beth i’w wneud nesaf. 

Awgrymiadau ar y sgwrs

Os ydych chi’n dal i’w chael hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud, mae gennyn ni awgrymiadau i’ch helpu.

I ddechrau eich sgwrs, gallech ddweud:

  • “Hoffwn siarad gyda chi am ... ydy hynny’n iawn?”
  • “Hoffwn i ddeall...gawn ni siarad am y peth?”
  • “Rydw i’n poeni am...oherwydd...allwn ni siarad am y peth?”

Os ydych chi’n glir o’r dechrau ynglŷn â'r hyn rydych chi eisiau siarad amdano, mae’n debygol y bydd yn gwneud i’r ddau ohonoch deimlo’n llai pryderus. Mae hefyd yn bwysig rhoi cyfle i’r unigolyn arall gytuno i sgwrsio ar y dechrau. Efallai y byddan nhw’n dweud ‘iawn’, neu efallai y byddan nhw eisiau dod yn ôl ati rhywbryd eto. Beth bynnag maen nhw’n ei ddewis, dylech ddilyn eu harweiniad. 

Wrth siarad am eich pryderon neu’ch gofidiau, ceisiwch rannu ffeithiau yn hytrach na theimladau:

  • “Fe wnes i sylwi eich bod...y diwrnod o’r blaen.”
  • “Gawn ni siarad am pan wnaeth...ddigwydd?”
  • “Allwch chi ddweud wrthyf fi pan wnaethoch chi...?”

Bydd siarad am ffeithiau yn helpu mewn sgwrs anodd oherwydd ei bod yn anoddach anghytuno â nhw. Byddan nhw hefyd yn eich helpu i weld beth ydy’r broblem a chael ateb yn gynt. Mae siarad am eich teimladau’n bennaf yn eich gwneud chi, yn hytrach na ffeithiau’r sefyllfa, yn ganolbwynt i’r sgwrs. Gallai hyn wneud i rywun sy’n cael pethau’n anodd deimlo’n amddiffynnol, neu efallai na fydd yn barod i ymddiried ynoch.

I ddirwyn y sgwrs i ben fe allech ofyn beth hoffen nhw ei weld yn digwydd nesaf:

  • “Iawn, mi ydw i’n falch ein bod ni wedi siarad am hyn. Sut alla i eich helpu?”
  • “Sut ydych chi’n teimlo am y sgwrs hon? Beth ydych chi eisiau ei wneud nesaf?”
  • “Beth am inni chwilio am rywun a all eich helpu gyda hyn?”

Oni bai eich bod yn teimlo bod y sgwrs wedi datrys unrhyw broblemau’n llawn, daliwch i gynnig help os ydynt eisiau hynny. Gofynnwch beth arall allwch chi ei wneud i helpu, neu a oes adnodd arall a allai fod o gymorth. Efallai y byddwch hefyd eisiau cysylltu â nhw eto mewn ychydig wythnosau, i weld sut maen nhw.

Eich diogelwch

Weithiau, gall pobl deimlo cywilydd neu fynd yn flin wrth gael sgyrsiau anodd. Mae’n bwysig rhoi lle i bobl deimlo’r emosiynau hyn, ond mae’n hanfodol cadw eich hun yn ddiogel.

Os bydd ymateb rhywun i sgwrs anodd yn troi’n ymosodol neu’n dreisgar, tynnwch eich hun allan o’r sgwrs. Peidiwch ag adweithio i’w hymateb mewn ffordd sy’n gwaethygu’r sefyllfa. A pheidiwch â dod â phobl eraill i mewn i’r sefyllfa oni bai eich bod chi’n hyderus y byddan nhw’n gallu tawelu pethau.

Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, neu hyd yn oed os ydych chi’n ofni bod rhywun yn mynd i gael ei niweidio, cysylltwch â’r heddlu ar 999.

Pryd i fynd at weithiwr proffesiynol

27827-exp-2024-08.jpg

Os bydd eich sgwrs yn gwneud i chi deimlo’n anesmwyth, chwiliwch am ragor o gyngor a chefnogaeth. Mae ein Llinell Gymorth yma ar gyfer unrhyw bryderon a allai fod gennych ynglŷn â chadw plant yn ddiogel.

Os yw eich sgwrs yn codi rhywbeth sy’n eich arwain i gredu bod plentyn neu’r unigolyn arall mewn perygl o niwed, peidiwch â delio â’r sefyllfa ar eich pen eich hun. Dylech fynd at weithiwr proffesiynol i gael cyngor, cymorth neu i roi gwybod eich bod yn bryderus. Cofiwch fod ein Llinell Gymorth yn cael ei staffio gan arbenigwyr amddiffyn plant pwrpasol a all eich helpu a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol.

A chofiwch, os ydych chi’n meddwl bod plentyn mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999.

Bydd yn Glust, Bydd yn Llais

listen up, speak up.jpg

Weithiau, mae cael sgyrsiau anodd yn rhan o’r gwaith o gadw plant yn ddiogel. Mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gadw plant yn ddiogel. Dyna pam rydym yn annog pob oedolyn yn y DU i fod yn glust, a bod yn llais. 

Cymerwch ran yn ein hyfforddiant digidol am ddim sy’n para 10 munud, a dysgu beth i’w wneud os ydych chi’n poeni am blentyn ar unrhyw adeg.  

Po fwyaf o bobl sy’n cofrestru, y mwyaf o blant y gallwn ni eu cadw’n ddiogel.    

Cofrestrwch nawr i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud eich rhan