Pam rydyn ni wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg?
- Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y gwaith o greu a meithrin cymdeithas sy’n hyrwyddo cyd-barch ac sydd wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth a gwahaniaethau.
- Rydyn ni’n gwybod y gallwn gyflawni’r nodau hyn drwy gofleidio'r iaith a’r gwahaniaethau diwylliannol yn llwyr yng Nghymru a rhoi gwerth arnynt.
- Rydyn ni’n cydnabod mai’r Gymraeg ydy’r iaith y byddai rhai o ddefnyddwyr ein gwasanaethau, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a staff yng Nghymru yn ei dewis.
- Mae iaith yn fwy na ffordd o gyfathrebu – mae’n rhan hanfodol o hunaniaeth rhywun, ac mae pobl yn gallu mynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith.
"Gyda’n gilydd, gallwn ddileu rhwystrau gwirioneddol ac ymddangosiadol, gan werthfawrogi pawb sy’n gwirfoddoli, yn gweithio i ni, yn ein cefnogi neu’n elwa o’n gwaith. "
Dyma ein gweledigaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Ein gwaith gyda Chomisiynydd y Gymraeg
Mae ein Cynnig Cymraeg yn dangos ein hymrwymiad i’r Gymraeg.
Bydd yn ein helpu ni i gael mwy o effaith ac i ysbrydoli pobl eraill i ymuno â ni yn ein brwydr dros blentyndod. Oherwydd mae pob plentyndod yn werth brwydro drosto.
Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu ein Cynnig Cymraeg ac mae’n fraint cael achrediad.
Sut rydyn ni’n cefnogi siaradwyr Cymraeg
Mae ein gwybodaeth allweddol a’n deunyddiau ymgyrchu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys ein hymgyrch Siarad PANTS, ein hawgrymiadau Edrych, Dweud, Canu, Chwarae ar ddatblygu’r ymennydd, a’n hadnoddau rhianta Camu’n ôl am 5.
Childline
- Gall cwnselwyr Cymraeg siarad â phlant yn Gymraeg drwy ein gwasanaeth Childline. Rydyn ni’n hysbysebu pryd mae’r gwasanaeth Cymraeg ar gael ar wefan Childline. Mae Childline yn cael ei hyrwyddo’n ddwyieithog.
- Gall plant a phobl ifanc ofyn am gael siarad â chwnselydd Cymraeg. Os nad oes cwnselwyr Cymraeg ar gael ar y pryd, gallant gael gwybodaeth ynghylch pryd y bydd cwnselydd Cymraeg ar gael.
- Bydd plant a phobl ifanc yn gallu darllen ein gwybodaeth fwyaf poblogaidd ar wefan Childline yn Gymraeg.
Llinell Gymorth yr NSPCC
- Mae modd anfon negeseuon e-bost yn Gymraeg at [email protected] a byddwn yn ymateb yn Gymraeg.
- Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut mae rhoi gwybod am gamdriniaeth yn Gymraeg ar ein tudalen Rhoi gwybod am gam-drin plant.
Ysgolion
- Mae ein hadnoddau mwyaf poblogaidd a’n cynlluniau gwersi sydd wedi’u llunio ar gyfer ysgolion ar gael yn Gymraeg.
- Gall ysgolion gael gafael ar ein rhaglen Cofia ddweud Cadwa’n ddiogel ar-lein a’r holl adnoddau ategol yn ddwyieithog.
- Mae’r rhaglen Cofia ddweud Cadwa’n ddiogel/SEND/ASN/ALN ar gael yn Gymraeg.
- Rydyn ni’n croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg i Hyb/Canolfan Genedlaethol Cymru a byddwn yn trefnu i’r rhain gael eu hateb yn Gymraeg. Byddwn yn ateb galwadau i Hyb/Canolfan Genedlaethol Cymru yn ddwyieithog.
- Mae’r cynnwys sydd wedi’i lunio ymlaen llaw ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol NSPCC Cymru yn ddwyieithog. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol NSPCC Cymru.
- Mae gwybodaeth am Ein Gwaith yng Nghymru ar gael yn Gymraeg. Mae’n hawdd dod o hyd i’n hadnoddau Cymraeg ar-lein.
Facebook: NSPCC Cymru | Facebook
Twitter: NSPCC Cymru (@NSPCC_Cymru) | Twitter
Mae ein E-gwrs poblogaidd ‘Amddiffyn plant yn y byd adloniant – hyfforddiant ar gyfer hebryngwyr’ ar gael yn Gymraeg ac mae deunyddiau Cymraeg ar gael i’r rheini sy’n cymryd rhan yn ein cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u trefnu yng Nghymru.
Mae ein staff Cymraeg yn hanfodol i’n gallu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Chwiliwch am lofnod e-bost a nwyddau Iaith Gwaith i adnabod ein staff Cymraeg.
Bydd yr holl aelodau staff sydd â rolau cyhoeddus yn cael eu cefnogi i ddysgu Cymraeg ‘ar lefel cwrteisi’, felly beth am ddechrau eich sgwrs gyda ni yn Gymraeg?
Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o recriwtio mwy o wirfoddolwyr Cymraeg. Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli yn cael eu hysbysebu’n ddwyieithog.
Mae gan ein gwirfoddolwyr fynediad at adnoddau Cymraeg a gallant gysylltu â gwirfoddolwyr eraill sy’n siarad Cymraeg drwy ein Hyb Gwirfoddolwyr.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi ein gwirfoddolwyr sy’n dymuno dysgu Cymraeg drwy’r rhaglen Cymraeg Gwaith.